Sut i gyrraedd yma?
Bydd dathliadau’r penwythnos yn cael eu cynnal mewn lle o’r enw La Moutière, mewn pentref bach o’r enw Colonzelle.
Os nad ydych yn heirio car, yr orsaf dren agosaf i’r ardal ydi Montélimar. Mi fyddwch wedyn angen dal taxi o orsaf Montélimar i lle bynnag fyddwch yn aros. Os byddwch angen help efo hyn o gwbl, cysylltwch efo ni.
Awyren + tren
Y meysydd awyr agosaf ydy Lyon, Marseille, Montpellier, Geneva a Paris. Mi fyddwch chi wedyn angen dal trên o’r maes awyr i Montélimar.
O orsaf dren Montélimar, mi fyddwch wedyn angen dal taxi i lle bynnag fyddwch yn aros. Os byddwch angen unrhyw help efo hyn, cysylltwch efo ni.
Tren yn unig
Yr orsaf dren dach chi angen gyrraedd ydi Montélimar. Os ydych yn dod o Gymru, mi fyddwch angen gwneud eich ffordd lawr i Lundain i ddal yr Eurostar i unai Paris neu Lille. Dyma’r teithiau a’r amseroedd:
Llundain – Paris (2h20)
Paris Gare du Lyon* – Valence (2h10)
Valence – Montélimar (1h05)
* mi fydd angen i chi newid gorsaf yn Paris.
neu
London – Lille-Europe (1h22)
Lille-Europe – Valence (3h44)
Valence – Montélimar (1h05)
O orsaf dren Montélimar, mi fyddwch wedyn angen dal taxi i lle bynnag fyddwch yn aros. Os byddwch angen unrhyw help efo hyn, cysylltwch efo ni.
Heirio car
Os ydych chi eisiau heirio car, mi allwch wneud hynny o unrhyw un o’r meysydd awyr neu o’r rhan fwyaf o’r gorsafoedd tren ar hyd y ffordd. Dyma rhai o’r pellteroedd:
Lyon i Colonzelle: 2 awr
Montpellier i Colonzelle: 2 awr 30 munud
Geneva i Colonzelle: 3 awr 30 munud
Mi allwch hefyd gymryd trên lawr i Avignon (y dref fawr agosaf) a heirio car o fanno – tua 1 awr ydi’r siwrne o Avignon. Mae hefyd modd heirio car o Montélimar neu Valence, ond bydd y dewis yn fwy cyfynedig.