Mwy o wybodaeth pwysig

Gawni ddod a’n plant?

Ac eithrio teulu agos a babis mewn breichiau, bydd hon yn briodas di-blant. 

Be dwi fod i wisgo?

Un parti mawr ydi’r penwythnos, felly mae croeso i chi fynd amdani efo’r lliwiau a’r razzle-dazzle. Yr unig liw dan ni’n ofyn i chi osgoi ydi aur ;) Yn sicr, dewch a rhywbeth cyfforddus efo chi i wisgo ar eich traed er mwyn i chi gael dawnsio’n iawn ar y llawr ’na a mynd amdani. 

Oes angen i mi heirio car?

Os ydych chi eisiau gwneud pethau ar eich liwt eich hun yna mi fysa ni’n arymell heirio car. Fel dan ni wedi sôn, bydd bws gwennol ar gael i’ch cludo chi i’r lleoliad dydd Sadwrn a dydd Sul. 

Oes angen i mi ddod âg anrheg?

Oes – chi eich hunain! Mae chi’n dod holl ffordd i Dde Ffrainc i ddathlu hefo ni yn ddigon. Os ydych chi’n mynnu, yna fe allwch gyfrannu at ein anturiaethau ar ôl priodi yn fan hyn. 

Erbyn pryd mae rhaid i mi adael i chi wybod os ydwi’n medru dod?

Llenwch y ffurflen ‘RSVP’ ar y wefan hon erbyn y 1af o Ionawr os gwelwch yn dda.

Mae De Ffrainc fymryn yn bell i mi.

Er gymaint fysa ni’n caru i’n holl ffrinidau a theulu fod yn dathlu efo ni, dan ni hefyd yn deall yn iawn bod dod holl ffordd i Ffrainc yn ofyn mawr. Does dim pwysau ar unrhyw un i dderbyn y gwahoddiad, ac mi fysa ni’r un mor hapus i ddathlu efo chi dros wydriad o siampên pan welwni chi nesaf. 

RSVP