Plan y penwythnos
Dydd Gwener, Mehefin 19
Cyrraedd
Fydd na ddim byd mawr wedi ei drefnu ar gyfer y dydd Gwener gan y bydd pawb yn cyrraedd yn eu hamser eu hunain. Efallai y bydd rhai ohonoch yn Ne Ffrainc yn barod yn gwneud gwyliau iawn ohoni (IES).
Mi fyddwn ni’n brysur yn cael pethau’n barod yn La Moutière yn ystod y dydd, ond yn y nos mi fyddwn ni’n mynd draw i fragdy lleol o’r enw Bivouak.
Mi fydd ’na gwrw da a faniau bwyd yno os ydych chi eisiau ymuno a chael rhywbeth i fwyta efo ni ar y nos wener.
Dydd Sadwrn, Mehefin 20
Y parti mawr
Pawb i gyrraedd La Moutière erbyn 12.30 yn eu dillad gora’. Mi fydd y dathliadau yn cychwyn efo seremoni fach am 13.00 (mi fyddwn ni wedi priodi yn barod felly peidiwch a phoeni, mi fydd hi’n fyr ac yn hwyl).
Bydd aperitif a canapes o tua 14.00, wedyn mi fydd y wledd fawr yn dechrau efo bang tua 16.00.
Mi fydd ’na ddigon o gerddoriaeth, dawnsio a mwy o ddawnsio felly dewch a rhywbeth cyfforddus i wisgo ar eich traed.
Bydd y dathliadau yn gorffen… fore Llun?! Na, dan ni’n tynnu coes…(Ond yda ni?!). Bydd y DJ yn sdopio’r parti yn oriau man fore Sul. Bydd y bws gwennol yn barod i’ch cludo chi i le bynnag da’ chi’n aros o tua hanner nos a bydd yn rhedeg nôl ac ymlaen dan 03.00, felly gwnewch siwr y byddwch yn dal yr un olaf!
Dydd Sul, Mehefin 21
Parti wrth y pwll
Yndi, mae’r dathliadau yn parhau dydd Sul (os y dymunwch). Bydd y bws gwennol wrth law i’ch cludo chi nôl i La Moutière y bore canlynol (dan ni’n gwbod, dan ni’n dda iawn efo chi).
Bydd y brunch yn dechrau am 12 ac bydd digon o rosé a chwrw i nyrsio’r pennau mawr ac i’ch cael chi nôl ar eich traed. Cofiwch ddod a gwisg nofio!
Does ddim rhaid i chi aros ar gyfer hwn, ond, wrth gwrs, dewch am damaid i fwyta a riw winsan bach cyn i chi ei throi hi am adra.
Byddwn yn gorffen y dydd efo fan pizza i’r rhai ohonoch fydd angen ‘chydig o carbs i socian yr hylif.